Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (228) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
Dechreuodd yr eitem am 14.18
William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad i adfer hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yn sgil y digwyddiad yn Argoed a arweiniodd at farwolaeth dau o bobl?
Cwestiwn Brys 2
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweidog ddatganiad ar yr eiddo a brynwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud lle i ‘lwybr du’ yr M4 cyn y gwnaed penderfyniad terfynol ar y llwybr?
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.35
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Diweddariad ar Raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020
Dechreuodd yr eitem am 14.47
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Adroddiad y Farwnes Kay Andrews ynghylch Diwylliant a Thlodi - Ymateb gan Lywodraeth Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.24
5 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Y Cyflenwad Tai
Dechreuodd yr eitem am 16.05
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr Adolygiad o Asiantau Cefnffyrdd
Dechreuodd yr eitem am 16.44
7 Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen:
a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr;
b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog; ac
c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
2. Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'
3. Yn nodi'r angen:
a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr;
b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog; ac
c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2014